Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 18 Mawrth 2025

Amser y cyfarfod: 13.30
 


268(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2025-26

(45 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd

(45 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

(45 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2024-2025

(30 munud)

NDM8831 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2025.

 

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i)  y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v)  cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

 

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Y Pwyllgor Cyllid

</AI7>

<AI8>

7       Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24

(60 munud)

NDM8856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2023-24 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2025.

2. Yn nodi bod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond bod yna feysydd sydd yn parhau i fod angen gwelliant.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2024-25 wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â phresenoldeb is, ymddygiad gwael disgyblion a heriau o ran recriwtio staff, sy'n cael effaith negyddol ar addysg yng Nghymru.

Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru ar gyfer mathemateg, darllen ac ysgrifennu yw'r rhai isaf yn y Deyrnas Unedig.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod yr Adroddiad Blynyddol yn nodi:

a) ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig;

b) bod recriwtio athrawon i bynciau sydd â phrinder neu’n medru darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn parhau i beri pryder arbennig; ac

c) mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon da.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod pleidleisio

 

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 19 Mawrth 2025

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>